Glantraeth farm cottages
Mae’r bythynnod wedi’u lleoli ar arfordir prydferth de orllewin Ynys Môn ar fferm weithiol breifat, sydd wedi’i thrawsnewid yn llety hunanarlwyo cyfforddus.
Lleolir y bythynnod rhwng pentrefi Bethel a Malltraeth mewn cefn gwlad prydferth. Mae'r dewis o fythynnod hunanarlwyo o safon uchel ar gael i chi. Am fwy o wybodaeth am y bythynnod cliciwch y ddolen isod.
Mae yna olygfeydd godidog dros y ffermdir o gwmpas i gyfeiriad Mynyddoedd Eryri. Mae rhai o draethau gorau Ynys Môn o fewn cyrraedd hawdd ac mae Coedwig Niwbwrch ac Ynys hardd Llanddwyn ychydig funudau mewn car - gwych i gerddwyr a beicwyr.