Defaid
Mae defaid ‘easy care’ wedi eu bridio ar Ynys Môn ers 40 mlynedd bellach. Bwriad magu’r llinach fridio hwn oedd i gynhyrchu dafad fasnachol gyda chyn-lleied o gost a gofal ag oedd yn bosib. Ychydig iawn o fewnbwn sydd ei angen i gynhyrchu wyn o’r ansawdd orau yn barod ar gyfer y farchnad.
Magwyd y defaid yn ofalus dros y blynyddoedd er mwyn sicrhau eu bod yn wydn, yn hunan-gynhaliol ac yn gallu bwrw gwlân. Roedd pob anifail nad oedd yn cyrraedd yn safon yn cael ei ladd gan sicrhau bod y llinach fridio, yn enetig, o’r ansawdd orau posib.
Cyfuniad o ddafad Wiltshire(2/3) a Nelson Welsh(1/3) yw’r ‘easy care’. Maent yn ddefaid heb gyrn nad oes angen eu cneifio.
- Costau cneifio
- Costau llafur
- Nid oes angen eu tocio(cedwir y cynffonau yn hir)
- Dim gwlân o gwmpas y pwrs
- Nid ydynt yn mynd ar eu cefnau
- Nid oes angen cneifio boliau wyn cyn mynd i’r farchnad
- Angen llai o dip/olchion defaid
Mae’r defaid yn famau arbennig ac mae’r wyn yn codi a sugno funudau ar ôl eu geni. Genir yr wyn yn naturiol yn y Gwanwyn ac mae’r tymor wyna yn dod i ben ganol yr haf.
Am fwy o wybodaeth am ddefaid ‘easy care’ cysylltwch â www.easycaresheep.com
Defaid croesfrid ‘easy care’
Bydd defaid croesfrid 'easy care' ar gael Haf 2009
Defaid ar werth
Bydd defaid ar werth Haf 2010
Meheryn ar werth
Cysylltwch a Mike ar 07786962359 am fwy o wybodaeth
